Alfred RussellPARRY15 Rhagfyr, 2025.
Yn dawel yng nghwmni ei deulu yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog, ac o Seibiant, Lôn Ddewi, Caernarfon, yn 95 mlwydd oed.
Priod cariadus y diweddar Peggy a thad addfwyn ac arbennig Eirian a'i gŵr Alun. Taid gofalgar Dafydd, Elin a Carwyn, a hen-daid balch Ryan, Ethan a Freddie. Brawd annwyl Gwynant, ffrind a chymydog triw i'w deulu a'i ffrindiau oll a bydd yn golled fawr i bawb oedd yn ei adnabod.
Angladd fore Iau, 15 Ionawr, 2026. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Fred tuag at Gronfa Cartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog.
Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates